Archwilio… Darganfod… Gwneud…

Amdanom ni:

Mae Ysgol Goedwig Nant y Glyn dan reolaeth Greg a Delyth ac mae ganddynt ymron i ddeugain mlynedd o brofiad rhyngddynt o waith chwarae, ieuenctid a chymunedol yn y sectorau gwirfoddol a statudol. Mae Greg a Delyth yn gweithio mewn partneriaeth i gyflenwi prosiectau amrywiol gyda grwpiau ieuenctid a chymunedol ar draws Gogledd Cymru a thu hwnt, ar sail menter gymdeithasol nad yw’n gwneud elw.

Barn eraill am ein sesiynau yn Ysgol Goedwig Nant y Glyn, Bae Colwyn:

“Rydym wedi cael diwrnod Calan Gaeaf hudol mewn lle hudolus. Diolch yn fawr iawn Ysgol Goedwig Nant y Glyn.”

“Diwrnod gwych yn y coed! Gweithgareddau da, cwmni da. Byddwn yn ei argymell i bawb! DIOLCH!!!!!”

“Diolch am ddiwrnod da. Gallaf ei gymeradwyo!”

“Pob lwc gyda’r Ysgol Goedwig, rydym yn edrych ymlaen i weld ein gofalwyr ifanc yn cymryd rhan am flynyddoedd i ddod!”

Pwy ydym ni:

DSCF0093Y (2)Dyma Greg! Mae Greg yn weithiwr ieuenctid a chymunedol â chymhwyster proffesiynol ac mae’n arweinydd ysgol goedwig lefel 3. Mae ganddo brofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc; cefnogi datblygiad gweithwyr ieuenctid a chymunedol, a rheoli prosiectau. Mae Greg wedi gweithio ar draws Cymru a Lloegr yn ogystal â gwneud gwaith Cyfnewid Rhyngwladol. Mae Greg yn ymrwymedig i weithio gyda phobl mewn ffordd hwyliog a hygyrch, ac mae’n teimlo’n angerddol dros addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang, a rhoi cyfle i bobl ddeall y cysylltiadau rhwng ein bywydau personol a’n hamgylcheddau lleol a byd-eang.

Mae gennym yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ac indemniad proffesiynol, gwiriadau DBS, tystysgrifau cymorth cyntaf a hylendid bwyd.

DSCF0105Y (2)Dyma Delyth! Mae Delyth yn weithiwr ieuenctid a chymunedol â chymhwyster proffesiynol ac mae’n ymarferydd Theatr Fforwm. Mae Delyth wedi gweithio mewn sawl sector gan ymgysylltu’n benodol â grwpiau ar y cyrion mewn cymunedau trefol a gwledig ar draws Cymru a bu’n gweithio am sawl blwyddyn gyda Chomisiynydd Plant Cymru ym maes cyfranogiad. Mae Delyth yn teimlo’n angerddol dros Theatr Fforwm, a hwyluso addysg cyfoed mewn ffordd anffurfiol i greu newidiadau cadarnhaol. Mae Delyth yn siarad Cymraeg fel ail iaith ac wedi cwblhau cyflwyniad i Iaith Arwyddion Prydain.

Awesome, wholesome family fun!

Yr hyn rydym yn ei wneud yn Ysgol Goedwig Nant y Glyn a pam:

Yr hyn rydym yn ei wneud yn Ysgol Goedwig Nant y Glyn: Rydym yn darparu profiad dysgu unigryw yn yr awyr agored i blant, pobl ifanc ac oedolion drwy brofiadau cymdeithasol a hwyliog, ymgysylltu â natur, heriau i unigolion a grwpiau, antur, gemau, celf a chrefft.

Rydym yn datblygu rhaglenni ar gyfer grwpiau, partïon pen-blwydd a dyddiau hwyl i’r teulu. Gallwn hefyd gynnal gweithgareddau mewn digwyddiadau neu ddod atoch chi os nad oes gennych dir addas. Gweler Yr hyn rydym yn ei Gynnig i gael mwy o wybodaeth.

“Enjoyed it more than I thought I would / not the sort of thing I would normally do”

Pam rydym yn gwneud hyn: Credwn y dylai pawb gael lle diogel i ddysgu, chwarae a chael hwyl yn yr awyr agored, ac mae’r cyfleoedd hyn yn gwella hunan-barch a datblygiad personol, cymdeithasol ac emosiynol. Mae ein gwerthoedd yn cynnwys gweithio mewn ffordd sy’n parchu hawliau, a hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant. Rydym yn gweithio mewn ffordd hwyliog a hygyrch, gan ddeall y gall amrywiaeth eang o rwystrau personol, cymdeithasol a gwleidyddol atal pobl rhag cymryd rhan.

Safle’r coetir:

Lleolir Ysgol Goedwig Nant y Glyn mewn coetir ar ochr bryn isel ar gyrion Bae Colwyn, Gogledd Cymru. Mae’r coetir yn gymharol ifanc, fe’i plannwyd tua 30 mlynedd yn ôl ac mae’n cynnwys cymysgedd o goed collddail a chonifferaidd gan gynnwys coed ffawydd a phyrwydden Norwy. Adeiladwyd cylch tân pwrpasol ar y safle ynghyd â seddau a thoiled compost.

Nant - Y Glyn Forest School