Archwilio… Darganfod … Gwneud…
Yn Ysgol Goedwig Nant y Glyn, Bae Colwyn.
Mae Nant y Glyn yn lleoliad delfrydol ar gyfer rhaglenni Eco-therapi yr Ysgol Goedwig.
“Mae Ecotherapi yn weithgaredd rheolaidd a gaiff ei hwyluso a’i strwythuro, sy’n canolbwyntio ar wneud gweithgaredd yn hytrach nac ‘iechyd’, sy’n digwydd mewn amgylchedd gwyrdd, sy’n ymwneud ag archwilio a gwerthfawrogi’r byd naturiol, yn digwydd dros amser, ac sy’n cynnwys cysylltiad gyda phobl eraill” (MIND)
Rydym yn hapus i drafod syniadau am raglenni gyda chi heb ymrwymiad i archebu. Cysylltwch â ni i drafod anghenion eich grŵp.
Awgryma ‘Open Space’: y ganolfan ymchwil i fynediad cynhwysol at amgylchoedd yr awyr agored, fod yr amgylchedd naturiol yn llesol i iechyd pobl mewn 5 prif ffordd, sef:
- Gwell sgiliau cyfathrebu a phersonol
- Gwell iechyd corfforol
- Gwell iechyd meddyliol ac ysbrydol
- Gwell ymwybyddiaeth ysbrydol, synhwyraidd, esthetig.
- Gallu i fynnu rheolaeth bersonol a bod yn fwy sensitif i’ch lles eich hun.