Parti pen-blwydd i’w gofio yn Ysgol Goedwig Nant y Glyn!
Yng nghysgod y coed, fry uwch y lli, ceir antur hudolus, hwyl a sbri……
Tostio malws melys ar dân gwersyll
Chwarae yn y goedwig hud gyda’ch ffrindiau
Adeiladu lloches, cafn coblynnod, llong fôr-ladron
Gwneud cleddyf, tiara, hudlath, neu greadur
Cael hwyl a chwerthin yn yr awyr iach
Cael pen-blwydd hudolus i gofio
Partïon pen-blwydd i blant yn llawn antur ……
Mae cymaint o weithgareddau ar gael ac amser yn brin, felly dyma rai themâu a gweithgareddau posibl:
Ahoi efo’r Môr-ladron!
Gwneud cleddyfau, adeiladu llong fôr-ladron, cipio baner, helfa drysor, cerdded y planc …..
Gwlad Hud y Tylwyth Teg a Choblynnod
Gwneud drws i’r tylwyth teg, hudlath neu diara, adeiladu cafn i goblynnod, achub y tylwyth teg yn rhaeadr y tylwyth teg …..
Creaduriad a Bwystfilod y Goedwig
Gwneud mwgwd neu greadur, adeiladu cuddfan neu nyth, mynd ar helfa chwilod neu ddilyn olion pawennau ….
Myrddin a Morag – dewiniaid a gwrachod hudol
Chwiliwch am gynhwysion i greu swyn, adeiladu ysgub neu hudlath, chwilio am y crochan …..
Partïon wedi’u teilwra: Cysylltwch â ni i greu parti pen-blwydd i gofio.
Profiad parti pen-blwydd ……. Mae ein partïon yn dilyn ethos yr ysgol goedwig, hynny yw, mai’r plant sy’n arwain y gweithgareddau; rydym hefyd yn caniatáu rhywfaint o chwarae rhydd yn ein gweithgareddau. Gallwn addasu hefyd er mwyn ymateb i egni ac anghenion y grŵp, gan wneud pob parti yn brofiad unigryw.
Parti personol:
Byddwn yn gofyn am eich syniadau ynglŷn â’r parti i greu profiad unigryw a phersonol.
Prisiau:
Mae’r pris yn cynnwys cost addurno’r ardal ar eich cyfer, tân gwersyll, lluniaeth fel siocled poeth a sgwash, deunyddiau celf a gweithgareddau wedi’u hwyluso. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cyrraedd, gan ddod â bwyd ar gyfer y plant. Rydym hyd yn oed yn darparu gwahoddiadau yn seiliedig ar thema eich parti a gallwch eu hargraffu a’u dosbarthu ymlaen llaw. Mae’r prisiau yn dechrau o £145 am 3 awr ar gyfer hyd at 12 plentyn a 2 oedolyn. Caiff y partïon eu harwain gan arweinydd hyfforddedig sydd wedi cael gwiriad DBS ac sydd â chymhwyster cymorth cyntaf. Does dim angen llogi ac addurno neuadd, a does dim costau ychwanegol i dalu am ddiddanwyr a gweithgareddau eraill.
Bwyd:
Nid ydym yn darparu bwyd nac yn coginio na pharatoi bwyd ar gyfer y partïon. Mae croeso i chi ddod â’ch bwyd eich hun a defnyddio’r pwll tân a’n sosbenni, ein hoffer coginio, platiau, powlen golchi llestri ac ati. Mae brechdanau parod neu gŵn poeth y gellir eu cynhesu yn boblogaidd iawn fel arfer, yn ogystal â byrbrydau fel bagiau creision a chacennau bach. Mae malws melys hefyd yn ddewis poblogaidd i’w tostio ar y tân a pheidiwch ag anghofio’r gacen ben-blwydd a’r canhwyllau. Gallwn ddarparu siocled poeth, te, coffi, llefrith, sgwash, bisgedi a dŵr. Byddwn hefyd yn darparu’r coed tân ar y safle ynghyd ag offer cynnau tân a diogelwch tân.
Amseroedd:
Gallwn gynnal partïon yn y bore 10.00 – 1.00 neu’r prynhawn 2.00 – 5.00 (yn ystod Amser yr Haf Prydain yn unig). Cynhelir partïon yn ystod y flwyddyn ar benwythnosau, ac yn ystod y gwyliau. Os hoffech drefnu parti hirach gellid trafod hyn ymlaen llaw.
Dewch â’r pethau hyn gyda chi:
Y gacen, canhwyllau, camera ac unrhyw ddanteithion eraill sydd eu hangen arnoch ar gyfer y parti. Byddwn yn cynnwys slip caniatâd rhieni gyda’r gwahoddiadau (rhaid i riant pob plentyn sy’n dod i’r parti lenwi’r slip hwn), rhestr o’r hyn y dylech ddod gyda chi / dillad, a manylion am sut i ddod o hyd i ni. Er ein bod yn hapus iawn i bobl wisgo dillad sy’n cyd-fynd â thema’r parti (hetiau, tiaras, crysau-T streipiog ac ati) nid ydym yn annog gwisgoedd ffansi, gan y gallant fod yn fflamadwy iawn a bydd tân agored ar y safle.
Hygyrchedd:
Mae’r mynediad i Nant y Glyn ar hyd llwybr troed â llethr ac nid yw’n addas ar gyfer bygis gwthio, cadeiriau olwyn, neu bobl ag anawsterau symudedd difrifol.