Sut i ddod o hyd i ni:
Nant - Y Glyn Forest School
Mynediad i Ysgol Goedwig Nant y Glyn
Nid yw’n bosibl cyrraedd safle’r coetir mewn car, rhaid cerdded tua 800 metr a gall hyn gymryd tua 15 munud.
Mae’r lôn yn gul a thawel yma ar ddiwedd y lôn byddwch yn cyrraedd dechrau’r llwybr ceffyl. Mae arwyneb y llwybr ceffyl yn serth ac anwastad a gall fod yn fwdlyd iawn pan fydd yn wlyb ac yn ystod y gaeaf. Nid yw’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn na bygis/cadeiriau gwthio.
Os nad ydych wedi bod i Ysgol Goedwig Nant y Glyn o’r blaen, byddwn yn trefnu i’ch cyfarfod ar ben y’r llwybr ceffyl.
Cymorth
Cysylltwch â ni i drafod anghenion eich grŵp os mae problem hefo mynediad i’r coetir.
Gallwn ddod atoch chi i gynnal gweithgareddau a hwyluso rhaglenni yn eich mudiad neu ysgol os oes gennych le addas yn yr awyr agored.
Trafnidiaeth Gyhoeddus:
Mae bws rhif 23 Arriva Cymru yn gwasanaethu St Andrews Road o ganol tref Bae Colwyn ac mae’n aros wrth y gyffordd ar Ffordd Llanrwst ger Honeysuckle Lane.