Archwilio… Darganfod… Gwneud…

Yr hyn rydym yn ei Gynnig:

Rydym yn cynnig profiad dysgu unigryw yn yr awyr agored i blant, pobl ifanc, oedolion a theuluoedd drwy ymgysylltu â natur, heriau, antur, gemau, celf a chrefft, awyr iach a hwyl.

Mae Ysgol Goedwig Nant y Glyn yn ysgogi creadigrwydd a’r dychymyg, lle gall pobl ddianc o brysurdeb bywyd, pwysau’r ystafell ddosbarth, y gwaith a’r cartref gan roi hwb i’r synhwyrau a datblygu safbwyntiau newydd mewn ymateb i heriau’r gymdeithas fodern.

Yn Ysgol Goedwig Nant y Glyn, rydym yn cynnig ystod eang o weithgareddau a rhaglenni y gallwn eu hwyluso, gan gynnwys:

  • Gemau a heriau i grwpiau
  • Adeiladu llochesau
  • Cynnau tân a choginio ar dân agored
  • Adeiladu tîm
  • Rhaglenni datblygiad personol / datblygiad cymdeithasol
  • Gweithdai yn seiliedig ar faterion a themâu, fel: Hawliau; Gwybodaeth Emosiynol;
  • Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang
  • Gweithgareddau yn seiliedig ar gelf a chrefft
  • Teithiau cerdded natur a thasgau cadwraeth..

Rhaglenni a Gweithgareddau.

FOREST SCHOOL LOGO no circle

Rydym yn hapus i drafod syniadau am raglenni gyda chi heb ymrwymiad i archebu. Cysylltwch â ni i drafod anghenion eich grŵp.