Yn swatio yng nghysgod y coed uwchlaw’r dyffryn, lle ceir golygfeydd o’r môr, saif ein coetir arbennig, man perffaith i ddianc rhag prysurdeb a phwysau bywyd bob dydd. Yn Ysgol Goedwig Nant y Glyn, Bae Colwyn, rydym yn darparu cyfleoedd dysgu a datblygu ymarferol yn yr awyr agored i blant, pobl ifanc, oedolion a theuluoedd drwy weithgareddau antur, hwyl a chwarae. Caiff ein rhaglenni eu harwain gan hwylusydd cymwysedig Ysgol Goedwig, ac maent wedi’u teilwra ar gyfer y grwpiau rydym yn gweithio gyda nhw.