Cysylltiadau

 

Woodlands.co.uk
Mae coetir Nant y Glyn yn eiddo i woodlands.co.uk ac rydym yn ddiolchgar iddynt am gefnogi ein Ysgol Goedwig. Nod Woodlands.co.uk yw:

  • Annog gweithgareddau anturus a chreadigol mewn lleoliad coetir.
  • Gwneud coetiroedd yn fwy hygyrch i’w defnyddio gan grwpiau bach wedi’u trefnu.
  • Ehangu gwybodaeth a dealltwriaeth pobl o goetiroedd drwy roi gwybodaeth ar eu gwefan.
  • Ehangu perchnogaeth coetiroedd er mwyn i fwy o bobl fwynhau
  • Coetiroedd Prydain fel perchnogion a chymryd rhan yn y gwaith o’u rheoli a’u cadw.

CWYVS
CWVYS (Cyngor Cymreig Gwasanaethau Ieuenctid Cymru) ydy’r corff cynrychiadol annibynnol ar gyfer y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru.Yr amcanion ydy i gynrychioli, cefnogi a rhoi llais cyfunol i’w aelodaeth o fudiadau cenedlaethol a lleol yn eu gwaith gyda dros 250,000 o bobl ifanc yng Nghymru. Mae’r CWVYS yn gweithio mewn partneriaeth g asiantaethau sydd yn hyrwyddo ymarfer da mewn gwaith ieuenctid.

Ysgol Goedwig yng Nghymru
Mae’r Ysgol Goedwig yng Nghymru yn gweithio i sicrhau bod darpariaeth Ysgol Goedwig gynaliadwy ar gael ar draws Cymru a gefnogir gan rwydwaith cenedlaethol a fydd yn meithrin datblygiad prosiectau, cynnig cyngor, darparu adnoddau, arwain arfer da a datblygiad proffesiynol parhaus.