Archwilio… Darganfod… Gwneud…
Yn Ysgol Goedwig Nant y Glyn, Bae Colwyn.
Ysgol Goedwig …………..
“Mae Ysgol Goedwig yn ddull blaengar ac ysbrydoledig o ddysgu a datblygu sy’n cynnig cyfleoedd rheolaidd i bobl o bob oedran gyflawni a datblygu hyder a hunan-barch trwy brofiadau ymarferol mewn amglychedd coetir lleol” (Yr Ysgol Goedwig yng Nghymru).
“It was fun and I made new friends”
Rydym yn hapus i drafod syniadau am raglenni gyda chi heb ymrwymiad i archebu. Cysylltwch â ni i drafod anghenion eich grŵp.
Yn Nant y Glyn!
“It was fun and we had new experiences”
Yn Ysgol Goedwig Nant y Glyn, rydym yn cynnig ystod o weithgareddau ar gyfer grwpiau o blant, pobl ifanc, oedolion, teuluoedd neu grwpiau wedi’u trefnu. Edrychwch ar ein hadran digwyddiadau i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein rhaglen.
Rydym yn trefnu rhaglenni ar gyfer grwpiau ar ein safle Ysgol Goedwig lle ceir ardal cylch tân pwrpasol a thoiled compost. Gallwn hefyd gynnal gweithgareddau a hwyluso rhaglenni mewn parciau a choetiroedd agored lleol sy’n hygyrch i’r cyhoedd neu hyd yn oed ddod atoch chi os oes gennych dir addas.
Dengys gwaith ymchwil y gall proses a phrofiad yr Ysgol Goedwig a dysgu yn yr awyr agored ddod â llawer o fanteision i’r rheini sy’n cymryd rhan, gan gynnwys:
- gwell iechyd a lles meddyliol a chorfforol
- llythrennedd emosiynol,
- hyder a hunan-barch,
- sgiliau cyfathrebu,
- gwaith grŵp,
- datrys problemau
- chyfrannu at wybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr o’r hunan, y gymuned a’r amgylchedd naturiol.
Mae Ysgol Goedwig yn broses a hwylusir a gaiff ei gyrru gan anghenion a diddordebau’r rheini sy’n cymryd rhan, gan dynnu ar yr anghenion a diddordebau hynny. Fel proses sy’n cyfrannu at ddatblygiad personol a dysgu caiff ei hwyluso orau dros nifer o sesiynau.
Yn Ysgol Goedwig Nant y Glyn rydym yn argymell rhaglen 6 sesiwn o hyd er mwyn i’r dysgwyr sy’n cymryd rhan gael budd gwirioneddol o’r profiad. Gall un sesiwn fod mor fyr ag 1.5 awr neu mor hir â 5 awr.
“I’d like to take my family there”