Archwilio… Darganfod… Gwneud…

Yn draddodiadol, mae gwaith Ysgolion Coedwig wedi canolbwyntio ar addysg blynyddoedd cynnar. Yn sgil ein profiad o Waith Ieuenctid, rydym yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r budd a gaiff pobl ifanc yn sgil cyflwyno gwaith ieuenctid i’r amgylchedd naturiol.

Mae’r cyfle i archwilio, darganfod a gwneud pethau yn Ysgol Goedwig Nant y Glyn yn ehangach na chyd-destun y gofod awyr agored yn unig, mae hefyd yn ymestyn i gyfoedion, cyfeillgarwch, ffiniau a’r hunan; gan greu cyfleoedd i feithrin hunan-barch ac ymddiriedaeth.

Mae gennym brofiad helaeth o weithio gyda grwpiau sydd ar y cyrion a phobl fregus, ac rydym o’r farn y dylai pob unigolyn ifanc gael cyfleoedd lle gallant ffynnu. Mae Ysgol Goedwig Nant y Glyn yn cynnig yr union beth.

Dengys gwaith ymchwil y gall proses a natur profiad Ysgol Goedwig a dysgu yn yr awyr agored ddod â nifer o fanteision i gyfranogwyr gan:

  • gynnwys gwell iechyd corfforol a meddyliol
  • llythrennedd emosiynol
  • hyder a hunan-barch
  • sgiliau cyfathrebu
  • gwaith grŵp
  • datrys problemau
  • gwell gwybodaeth a dealltwriaeth am yr hunan, y gymuned a’r amgylchedd naturiol.

 

 

Mae’r Comisiwn Coedwigaeth wedi gwneud gwaith ymchwil sydd hefyd yn ystyried effaith emosiynol Ysgolion Coedwig ar bobl ifanc a’u hamgylchedd dysgu: Ysgol Goedwig: tystiolaeth o fanteision iechyd adferol i bobl ifanc (Saesneg).

Caiff Ysgol Goedwig Nant y Glyn ei redeg gan weithwyr Ieuenctid a Chymunedol proffesiynol cymwysedig, ac mae Egwyddorion Gwaith Ieuenctid, Hawliau Plant, a Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Gwaith Ieuenctid yn sail i’n dull gweithredu; yn hyrwyddo cymhwysiant, cydraddoldeb a diddordebau a lles pobl ifanc.

Yn Ysgol Goedwig Nant y Glyn, rydym yn awyddus iawn i weithio gyda phobl ifanc rhwng 11 a 25 oed gyda’r nod o ymgysylltu â chyfranogwyr mewn proses o ddatblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol. Mae gennym brofiad o weithio gyda phobl ifanc o wahanol gefndiroedd gan gynnwys y rheini nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) a grwpiau sydd ar y cyrion.

Trwy fabwysiadu dull gweithredu sy’n ystyried Gwaith Ieuenctid yng ngwaith yr Ysgol Goedwig rydym yn benodol yn ceisio:

  • Hwyluso dysgu a datblygiad pobl ifanc drwy waith ieuenctid a deialog gritigol
  • Hyrwyddo hunan-ymwybyddiaeth, hyder a chyfraniad pobl ifanc
  • Gweithio gyda phobl ifanc i hyrwyddo eu hawliau
  • Diogelu iechyd a lles pobl ifanc
  • Hyrwyddo cynhwysiant, cydraddoldeb ac amrywiaeth

“Pob lwc gyda’r Ysgol Goedwig, rydym yn edrych ymlaen i weld ein gofalwyr ifanc yn cymryd rhan am flynyddoedd i ddod!”

“Enjoyed it more than I thought I would – not the sort of thing I would normally do”

Young person

“The best lunch time I have ever had”

Young person

FOREST SCHOOL LOGO no circle (1)

Rydym yn hapus i drafod syniadau am raglenni gyda chi heb ymrwymiad i archebu. Cysylltwch â ni i drafod anghenion eich grŵp.